Datblygodd y sîn roc Gymraeg yn yr 80au gyda grwpiau fel Eliffant a Rhiannon Tomos yn dod â pherfformiadau ymosodol a heriol i lwyfannau Cymru. Ehangwyd ar hyn gan ymddangosiad grwpiau roc trwm fel Crys a Ceffyl Pren. Daeth Caryl Parry Jones i’r amlwg fel prif leisydd y grŵp Bando a gyda chyfansoddi’r clasur o gân 'Chwarae’n troi’n chwerw', sicrhaodd y grŵp ei le yn hanes canu pop Cymraeg.
Ffigwr allweddol yn y sîn Gymraeg gydol yr 80au oedd Rhys Mwyn. Bu’n aelod o’r grŵp a oedd yn erbyn 1988 yn gwbl broffesiynol ac yn ymddangos ar lwyfannau ar draws Ewrop. Daeth llwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol i fandiau y 'New Romantics' fel The Alarm a Visage, a daeth Shakin’ Stevens i’r amlwg gyda senglau fel 'This old House' a Bonnie Tyler gyda’r gân 'Total Eclipse of the Heart'.
Yn y 90au gwnaed penderfyniad bwriadol gan fandiau Cymraeg i ganu yn Saesneg. Ffurfiwyd Catatonia gan aelodau'r Cyrff, Super Furry Animals gan aelodau Ffa Coffi Pawb a daeth Beganifs yn Big Leaves. Wrth i gerddoriaeth 'grunge' godi uwchlaw pob dull arall o gerddoriaeth o 1991 ymlaen, daeth de-ddwyrain Cymru, yn arbennig Casnewydd, yn feithrinfa i fandiau, gyda’r Manic Street Preachers a’r 60ft Dolls yn chwarae rhan bwysig. Daeth Charlotte Church yn enw cyfarwydd, gan sicrhau ei llwyddiant ar lwyfan rhyngwladol a daeth Bryn Terfel yn enwog ar lwyfan opera a chanu clasurol, gan sicrhau ei le ar frig siartiau’r albymau clasurol. Chwaraeodd rhaglenni teledu, hefyd, ran bwysig yn llwyddiant y bandiau Cymreig, gyda rhaglenni fel The Word ac Electric Chair, yn rhoi cyhoeddusrwydd ychwanegol i’r bandiau. Un o enwau mwyaf Cymru yn yr 1990au oedd Catatonia, a’u hymddangosiad pwysicaf erioed oedd yn 1999, ym Mharc Margam, Port Talbot. Amlygodd cyngerdd y Manic Street Preachers yn Stadiwm y Mileniwm ar drothwy’r 21ain ganrif, lwyddiant y bandiau Cymreig ar lwyfan rhyngwladol. Camodd y Super Furry Animals allan o’r sîn Gymreig i’r llwyfan rhyngwladol. Ar ôl rhyddhau eu halbwm Cymraeg 'Mwng' ac agor Gŵyl Jazz Aberhonddu 2004, rhyddhaodd eu prif leisydd Gruff Rhys albwm unigol o ganeuon Cymraeg yn 2005 i ganmoliaeth y wasg Brydeinig.
Ar y sîn draddodiadol ymddangosodd Shan Cothi yn y West End tra bod Charlotte Church wedi mentro i’r byd pop. Mae Cymru’n dal i gynhyrchu cantorion clasurol llwyddiannus fel Katherine Jenkins a Bryn Terfel. Daeth dylanwad y cyfryngau yn rhan bwysig o freuddwyd unrhyw gerddor am yrfa lwyddiannus. Gyda sefydlu Ffatri Bop Emyr Afan, gwahoddwyd sêr y byd pop yng Nghymru i fuddsoddi mewn canolfan aml-gyfryngol newydd er mwyn sicrhau twf parhaol a llwyddiant canu pop yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Gyda nawdd Ewropeaidd crëwyd nifer o brosiectau cyfryngol yng Nghymru, fel y Sefydliad i Gerddoriaeth yng Nghymru (Welsh Music Foundation) a Cherdd Gymunedol Cymru.